Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Carl Sargeant AC

Y Gweinidog Tai ac Adfywio

 

Bae Caerdydd

 Caerdydd

CF99 1NA

                                                            

                              

 

30 Mehefin 2014

 

 

 

Annwyl Weinidog

 

Sesiwn graffu yn ystod y flwyddyn - cais am ragor o wybodaeth yn dilyn y cyfarfod ar 19 Mehefin

 

Diolch am ddod i'n cyfarfod ar 19 Mehefin 2014 i roi tystiolaeth fel rhan o'n rhaglen craffu ar waith y Gweinidog yn ystod y flwyddyn. Yn ystod y sesiwn, gwnaethoch gytuno i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda'r wybodaeth a ganlyn:

·         eglurhad o'r diffiniad technegol o 'dai fforddiadwy' fel y cyfeirir atynt mewn perthynas â thargedau, a nodyn ar y gwahaniaethau rhwng defnydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o'r term "fforddiadwy";

·         dadansoddiad o statws pob awdurdod lleol mewn perthynas â'u dyddiadau targed o ran cwblhau Safon Ansawdd Tai Cymru, gan gynnwys manylion am unrhyw awdurdod na fydd, o bosibl, yn cyrraedd y targed;

·         dadansoddiad manwl o'r ffigurau ar gyfer y cynllun rhannu ecwiti 'Cymorth i Brynu' ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru;

·         nodyn ar y cynlluniau busnes a'r prosiectau o fewn eich portffolio sy'n ymwneud â'r gronfa gofal canolraddol a'r canlyniadau a ddisgwylir;

·         manylion am yr adolygiad Adran 180 o'r Rhaglen Grantiau Digartrefedd, pan fo'r rhain ar gael;

·         y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wneir gan swyddogion i wneud yn siŵr fod y Rhaglen Cefnogi Pobl yn sicrhau gwerth am arian.

Yn ogystal â'r uchod, byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar o gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

·         manylion am y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru, TPAS Cymru a Tenantiaid Cymru, a gwybodaeth ynghylch pryd y mae'n debygol y caiff penderfyniad ar gyllid hirdymor ei wneud;

·         adolygiad o sut y gellir monitro addasiadau ledled Cymru;

·         eglurhad o sut y mae'r adolygiad o addasiadau i'r cartref yn ystyried y Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw'n Annibynnol.

 

Edrychaf ymlaen at glywed gennych yn fuan.

 

Yn gywir

Christine Chapman AC

Cadeirydd